Ar gyder pa ardal mae cefnogaeth Cymunedau sy'n Cydeithio ar gael?
Allwch chi ddod i weld fy ngrwp yn ein canolfan ni?
Ydych chi ond yn helpu mudiadau sy'n bod yn barod neu allwch chi helpu grwpiau newydd?
Faint fydd eich cefnogaeth yn ei gostio imi?
A ddylai ein mudiad ddod yn Fenter Gymdeithasol?
Sut fydd y wasgfa gredyd yn effeithio arna i?
Pam mae mentrau cymdeithasol yn cael cymaint o sylw ar hyn o bryd?
Ble alla i gael arian ar gyfer fy menter gymdiethasol?
A oes rhaid imi gael cynllun busnes?
All prosiect Cymunedau sy'n Cydeithio helpu Awdurdodau Lleol?
Ar gyfer pa ardal mae cefnogaeth Cymunedau sy’n Cydeithio ar gael?
Mae Cymunedau sy’n Cydeithio yn bartneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chynghorau Sir yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae mudiadau yn seiliedig neu’n gweithio yn yr ardaloedd hyn yn cael eu cynnwys yn y prosiect.
Allwch chi ddod i weld fy ngrwp yn ein canolfan ni?
Gall ein Swyddogion weithio trwy drefniant allestyn a dod i’ch gweld yn eich mudiad. Os oes angen gallant ddod i gyfarfodydd gyda’r nos gyda’ch grwp.
Ydych chi ond yn helpu mudiadau sy’n bod yn barod neu allwch chi helpu grwpiau newydd?
Mae Cymunedau sy’n Cydeithio yn cynnig cymorth i fudiadau newydd a rhai sy’n bod yn barod. Rydym yn fwy na hapus i helpu grwpiau newydd neu grwpiau sydd ond yn y cyfnod “syniad” i’w helpu i sefydlu a datblygu eu mudiadau.
Faint fydd eich cefnogaeth yn ei gostio imi?
Mae cymorth y Swyddogion yn rhad ac am ddim. Cafodd y prosiect ei ran-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru a bydd mudiadau’n gorfod llofnodi i ddweud pa gefnogaeth a gawsant.
Beth yw Menter Gymdeithasol?
Diffiniad Cymunedau sy’n Cydeithio o Fenter Gymdeithasol:
‘Mae Mentrau Cymdeithasol yn masnachu er mwyn cyrchu budd cymdeithasol ac yn ail-fuddsoddi elw er mwyn cyflawni amcanion cymdeithasol.’
Nid yw’n strwythur cyfreithiol ynddo’i hun a gall fabwysiadu nifer o ffurfiau cyfreithiol gwahanol. Fel mudiad, byddai angen ichi fabwysiadu strwythur priodol, megis cymdeithasau anghorfforedig, ymddiriedolaethau, cwmnïau cyfyngedig, rhai cymdeithasau diwydiannol a darbodus, Cwmnïau Buddiant Cymunedol neu fudiadau elusennol corfforedig. Gan ddibynnu ar nodau, pwrpasau neu amcanion eich mudiad, efallai y byddai’n llesol ichi sefydlu’ch hun yn elusen.
A ddylai ein mudiad ddod yn Fenter Gymdeithasol?
Nid pob mudiad sy’n gallu neu ddylai ddatblygu gweithgarwch masnachu neu fenter gymdeithasol. Mae angen iddo weddu i’ch cenhadaeth, mae’n rhaid bod gennych y capasiti i’w gyrchu ac mae angen iddo fod yn hyfyw. Dewch i siarad â ni os hoffech drafod menter gymdeithasol fel dewis ichi, dewch draw i un o’n gweithdai neu defnyddiwch y goeden benderfyniadau yn yr adran adnoddau
Hyd yn oed os na fyddwch yn datblygu gweithgarwch masnachu newydd, gallwn eich helpu ystyried sut i fod yn fwy mentrus yn y gwaith rydych yn ei wneud ac yn fwy effeithiol yn dod o hyd i a chael gafael ar arian.
Mae Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC) yn gwmnïau cyfyngedig sy’n bodoli i ddarparu buddiannau i gymuned. Mae’n statws cyfreithiol sy’n gweithio’n dda i Fenter Gymdeithasol. Mae ganddo ffurf gyfarwydd cwmni a gall fanteisio ar nifer o ddewisiadau ariannu. Mae’n briodol i’r sawl sy’n gweithio at ddibenion cymdeithasol. Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys clo asedau a datganiad buddiant cymunedol. Ni all CIC gael statws elusennol ond gall elusen fod yn berchen ar un.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng cefnogaeth Cymunedau sy’n Cydeithio a fy Nghymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol leol neu’r Awdurdod Lleol?
Mae Cymunedau sy’n Cydeithio yn darparu cymorth trwy ein partneriaid (gweler yma). Mae’n ceisio ychwanegu at y cymorth a gynigiwyd ers blynyddoedd lawer ac adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau bod ein cefnogaeth mor ddefnyddiol ag y gall fod ac y gall fod yn berthnasol i anghenion sy’n newid. Gallai hyn olygu fod rhai o’r swyddogion yr ydych yn gweithio â nhw yn cael eu hariannu gan Gymunedau sy’n Cydeithio er mwyn rhoi cymorth ichi.
Sut fydd y wasgfa gredyd yn effeithio arna i?
Mae llawer o anobaith yn y newyddion ar hyn o bryd. Mae’n anorfod y bydd ffynonellau arian a chymorth yn newid wrth i doriadau sector cyhoeddus ddechrau brathu ac wrth i’r cyhoedd yn gyffredinol newid eu harferion gwario, rhoi a gwirfoddoli. Mae’n amhosib dweud pa newidiadau fydd yn digwydd ond mae’n hollbwysig fod mudiadau’n derbyn fod newid yn digwydd a’u bod yn cadw cysylltiad â’r bygythiadau a’r cyfleoedd mae hyn yn eu creu. Cysylltwch â’n swyddogion datblygu i drafod sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.
Pam mae mentrau cymdeithasol yn cael cymaint o sylw ar hyn o bryd?
Wrth i gyfleoedd ariannu ddod yn brinnach ac wrth i lywodraeth y Deyrnas Unedig geisio diwygio’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu, mae llawer o sôn am fodel menter gymdeithasol fel ateb posib. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i lawer o fudiadau ond dylid bod yn ofalus nad yw menter gymdeithasol yn ateb i bopeth. Mae menter gymdeithasol yn un ateb ymhlith llawer.
Ble alla i gael arian ar gyfer fy menter gymdeithasol?
Mae model menter gymdeithasol yn caniatáu ichi gynhyrchu incwm o fasnachu, arian benthyciadau a grantiau. Gallwn eich helpu dod o hyd i gyfleoedd a strategaethau ar gyfer sicrhau arian i’ch mudiad. Gall Cymunedau sy’n Cydeithio gynnig peth cyllid i fudiadau i gydweddu cymorth y swyddog datblygu.
A oes rhaid imi gael cynllun busnes?
Mae prosiect Cymunedau sy’n Cydeithio yn helpu mudiadau i wella ac i ddod yn fwy cynaliadwy. Gall y broses hon gynnwys rhyw gymaint o gynllunio busnes neu strategol. Mae’r broses hon o ddatblygu’r cynllun hwn yn bwysicach na’r ddogfen derfynol a dylai fod yn gymorth gwirioneddol i helpu’r mudiad symud ymlaen. Dylai’r cymhellion ar gyfer datblygu cynllun fod yn gynhenid (i helpu’r mudiad wella) yn hytrach nac anghynhenid (oherwydd bod ariannydd eisiau inni gael un).
All prosiect Cymunedau sy’n Cydeithio helpu Awdurdodau Lleol?
Mae prosiect Cymunedau sy’n Cydeithio yn cynnwys Awdurdodau Lleol a Chynghorau Gwirfoddol Sirol yn y pedair sir yn Ne-orllewin Cymru. Mae mewn sefyllfa unigryw i hyrwyddo a gwella’r berthynas rhwng Awdurdodau Lleol a’r trydydd sector. Rydym yn gweithio gydag adrannau Awdurdodau Lleol sy’n awyddus i weithio gyda mwy o fudiadau trydydd sector ac sy’n ystyried hefyd a allai rhai gweithgareddau gael eu contractio allan neu eu hallosod i strwythurau mentrau cymdeithasol.