

![]() |
Mae gan Andrew ragor na 10 mlynedd o brofiad ym maes rheoli a datblygu prosiect a bu’n gweithio mewn nifer o sectorau gan gynnwys tai, adfywio a phrosiectau ieuenctid. Yn fwy diweddar, bu’n ymwneud â datblygu mentrau mewn ardaloedd gwledig. |
Sir Gaerfyrddin Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol Blaenllaw 01269 590211 |
|
Cyngor Sir Caerfyrddin Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01269 590280 |
Bu Darren yn gweithio ym maes Adfywio Cymunedol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ers 2006. Yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio ar amryw gynlluniau grant mewnol ac allanol ac fel gweithiwr datblygu gyda grwpiau cymunedol a oedd yn ceisio cyngor cyffredinol ar feysydd megis nawdd. | ![]() |
![]() |
Bu Helen yn gweithio yn y sector gwirfoddol am chwe blynedd, gan weithio’n wirfoddol ar brosiectau cymunedol i gychwyn, a bu’n gweithio i CAVS ers dros dair blynedd gan weithio ar raglen Her Gorfforaethol LlCC sy’n ceisio hybu cydweithio rhwng busnesau a’r sector gwirfoddol. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn flaenorol yn gweithio ym maes recriwtio yn y sector preifat, ac wedi rhedeg ei busnes ei hun, mae’n edrych ymlaen at ddod â’r wybodaeth a’r profiad hyn i’r prosiect. |
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy Helen.Martin@cavs.org.uk 01554 778601 |
|
Cyngor Sir Caerfyrddin Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01269 590270 |
Tim oedd cyn rheolwr Llygad Busnes - gwasanaeth cymorth busnes yn Sir Benfro. |
![]() |
|
|
Symudodd Carl i weithio ym maes datblygu cymunedol ar ôl bod yn gweithio i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a threuliodd yr wyth mlynedd diwethaf yn gweithio gyda’r Trydydd Sector. Bu’n Rheolwr Prosiect gyda Menter Gymdeithasol, yn Gydgysylltydd mewn Ymddiriedolaeth Ddatblygu ac yn Swyddog Datblygu gan helpu amrywiaeth o fudiadau’r trydydd sector i dyfu, datblygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gan Carl brofiad uniongyrchol o fynd i’r afael â’r heriau niferus a’r straen sy’n wynebu sefydliadau wrth iddynt gyflenwi eu gwasanaethau. Cryfderau Carl yw cynllunio strategol, marchnata, nawdd a chasglu/asesu data. |
Castell-nedd Port Talbot Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol Blaenllaw 01639 686084 |
|
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01639 631246 |
Mae Carys wedi gweithio i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot ers pum mlynedd, gan gyflawni amrywiaeth o swyddi fel gweinyddwr, fel swyddog datblygu gwybodaeth, ac yn fwy diweddar fel swyddog datblygu cymunedol â diddordeb arbennig mewn trafnidiaeth a mentrau cymdeithasol. Enillodd radd mewn Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bu'n aelod gwirfoddol brwd o Fudiad y Ffermwyr Ifanc, gan ymgymryd â sawl gwahanol rôl fel swyddog ar lefel leol a sirol. Treulia lawer o'i hamser rhydd yn helpu i gynnal fferm y teulu. |
![]() |
|
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01437 769422 |
Mae Anne wedi gweithio yn y sector gwirfoddol, mewn amryw o swyddi am y rhan fwyaf o'i gyrfa. Cyn ymuno â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro fel Hwylusydd Gofal Cymdeithasol a Chynllunio Tai, roedd gan Anne gysylltiad hir â'r mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru gan weithio â'r corff cenedlaethol a nifer o Asiantaethau Gofal a Thrwsio. Mae gan Anne ddiddordeb a chefndir mewn cyngor ac eiriolaeth ym maes cyfraith lles cymdeithasol, rheoli perfformiad ac archwilio gwasanaethau sef meysydd y mae wedi gweithio ynddynt yn y sectorau gwirfoddol a phreifat. |
![]() |
|
|
Ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Daeareg, treuliodd Kevin bum mlynedd yn gweithio yn y diwydiannau olew ac adeiladu, gan gyflawni gwahanol swyddi ym myd peirianneg yn y Deyrnas Unedig a thramor. Wedyn bu'n gweithio yn y sector ariannol am bron ugain mlynedd, lle cafodd nifer o swyddi ym maes gwerthu, rheoli, a datblygu busnes. Mae ef wedi bod yn gweithio ar ei liwt ei hun fel ymgynghorydd Busnes a Hyfforddiant ers 12 mlynedd, gan weithio ar lu o raglenni datblygu gweithlu a busnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn Lloegr. Mae llawer iawn o'r cyflogwyr y bu Kevin yn ymwneud â hwy yn y cyfnod hwn yn rhai o'r trydydd sector, ac mae wedi ennill profiad sylweddol ym maes marchnata, gwerthu, a chynllunio busnes gydag ystod o gyrff sy'n amrywio yn eu maint. Hefyd, yn ystod yr un cyfnod bu'n astudio am Dystysgrif Addysg i Raddedigion a gradd Meistr yn y Celfyddydau, ac enillodd achrediad y Cynllun Datblygu Menter Cwmnïau Bach ar gyfer ymgynghorwyr busnes. |
Cyngor Sir Penfro Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol kevindoolin@pembrokeshire.gov.uk 01437 775537 |
|
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01437 769422 |
Bu Lorna yn astudio Ffrangeg, Sbaeneg a Busnes ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, cyn gweithio am rai blynyddoedd fel Rheolwr Prosiect yng Nghaerdydd. Ers 2002 bu’n gweithio i Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro fel Swyddog Datblygu a thros y cyfnod hwn gweithiodd gydag amrywiaeth eang o grwpiau gan gynnig cymorth datblygu. Mae gan Lorna ddiddordeb brwd mewn materion datblygu cymunedol ac mae ganddi arbenigedd ym maes rheoli nawdd a grantiau. |
|
|
|
Yn ystod ei yrfa mae Robin wedi bod yn Ymgynghorydd Tai ac yn Weithiwr Achosion ym maes y Gyfraith, ynghyd â bod yn gyfrifol am brosiect blaengar oedd yn mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mewn dulliau cymunedol. Ers chwe blynedd mae wedi bod yn cynnal menter gymdeithasol o’r enw TidyLike Records gan ddarparu cwmni recordiau cymunedol, gweithdai ysgol roc, a gwyliau, gigiau a digwyddiadau, ac yn cynnal syrcas gymunedol o’r enw Circus Malarkey sy’n gwasanaethu cymunedau difreintiedig. Mae’n gobeithio y bydd ei brofiad ym maes cerdd, clownio a jyglo yn ddefnyddiol ym myd cyfnewidiol mentrau cymdeithasol. |
Cyngor Sir Penfro Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol Blaenllaw robin.benson@pembrokeshire.gov.uk 07825 388294 |
|
Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01437 769422 |
Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, bu Wendy yn gwneud gwaith cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau lleol a’r theatr cyn treulio naw mlynedd yn Swyddog Cyswllt Plwyfi yng Nghyngor Sir Dyfnaint. Dychwelodd i Sir Benfro yn 1998 i weithio i PLANED (Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro er Menter a Datblygu) a bu’n rheolwr yr Adain Cymunedau a Datblygu Cynaliadwy tan 2004. Yna treuliodd bum mlynedd yn gydlynydd prosiect hanes llafar cymunedol a gyllidwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gan barhau i fod yn ymgynghorydd i PLANED. | ![]() |
|
|
Mae gan Alyx gefndir o weithio ym maes awdurdod lleol, datblygu cymunedol a datblygu cydweithredol. Bu’n gweithio gyda CGG Abertawe ers 1990, yn cynorthwyo i ddatblygu Undeb Credyd i gychwyn, ac yn fwy diweddar yn cynorthwyo mudiadau’r trydydd sector yn gyffredinol, o gamau sefydlu cychwynnol i elusennau a mentrau cymdeithasol sefydledig. |
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01792 544005 |
|
Abertawe Swyddog Datblygu Mentrau Cymdeithasol Blaenllaw 01792 637734 |
Mae gan Angela gefndir ym maes cyfrifyddu a bu’n gweithio fel ymgynghorydd busnes yn y sector preifat, yn bennaf yn rhoi cymorth o ran systemau ariannol. Mae’n drysorydd elusen leol ac yn un o’r ymddiriedolwyr. |
![]() |
|
|
Daeth Lauren i Abertawe am y tro cyntaf i astudio yn y Brifysgol, a graddiodd y llynedd mewn Mathemateg ac Economeg. Drwy gydol ei chyfnod yn y brifysgol, bu Lauren yn gwirfoddoli gydag elusen leol ac roedd yn un o ymddiriedolwyr yr elusen - dyna sut y datblygodd ei diddordeb yn y trydydd sector. |
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe Swyddog Datblygu Mudiadau Cynaliadwy 01792 543639 |