Cymorth i Gyrff

Yn cefnogi cyrff y trydydd sector sy'n gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy

Cymorth i Gyrff

Mae Prosiect Cymunedau sy’n Cydeithio eisiau gweld ein trydydd sector ffyniannus yn tyfu o ran maint, capasiti ac ansawdd. Mae prosiectau blaenorol, arian a llawer iawn o waith caled gan unigolion a mudiadau wedi creu sector ffyniannus ac mae  Cymunedau sy’n Cydeithio yn gweithio i atgyfnerthu hyn.

Mae arian yn mynd yn fwyfwy prin ac mae’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu yn newid. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd a bygythiadau i fudiadau trydydd sector.
 

“Roedd y gefnogaeth a gawsom yn amrhisiadwy o ran amcanestyniadau llif arian yn arbennig.
Fydden ni ddim wedi llwyddo heb hynny,”
Alison Turner, ysgrifennydd Haverfordwest Skate Association.

 

Sut ydyn ni’n darparu cefnogaeth?


Mae’r rhan fwyaf o gefnogaeth ar gael trwy gymorth un ac un gan swyddogion wedi’u hyfforddi yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r Awdurdodau Lleol. Gall y swyddogion hyn eich arwain at fathau eraill o gefnogaeth fel gweithdai a chynadleddau.

Rydym hefyd yn trefnu gweithdai tasgau sy’n cynnig cyfle i ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd i’w defnyddio yn eich mudiad. Er enghraifft, gallwch ddysgu arfau datblygu busnes a’u defnyddio i ddatblygu strategaeth ariannu cynaliadwy, a gweithio gyda chydweithwyr i ddeall sut i fesur eich effaith gymdeithasol.
 

Pa gefnogaeth allwn ni gynnig?


Bydd ein swyddogion datblygu lleol yn cynnig cymorth mewn meysydd o bob math, megis: